John Hanlon yw'r Archwilydd Achosion Anibynnol (ICE). Ei rôl yw ymchwilio i gwynion am yr Asiantaethau neu'r Busnesau Llywodraethol canlynol, gan ddefnyddwyr eu gwasanaethau:
Nid yw Mr Hanlon yn Was Sifil ac nid yw'n rhan o strwythur reoli unrhyw un o'r Asiantaethau neu'r Busnesau ac mae'r gwasanaeth a ddarperir gan ei swyddfa yn rhad ac am ddim i gwsmeriaid.
Mae Mr Hanlon yn gyfreithiwr sydd wedi cyflawni nifer o swyddogaethau anweithredol, cynghorol ac annibynnol, gan gynnwys gweithredu fel Rheolydd Cwmnïau Budd Cyhoeddus ac fel Comisiynnydd i'r Comisiwn Gofal yn Yr Alban. Mae ganddo brofiad sylweddol mewn cyfryngu, canoli, a phenderfynu ar faterion cymhleth. Mae wedi gweithio'n llwyddiannus gyda nifer o gyrff cyhoeddus mawr yn y sectorau cyhoeddus a phreifat.
Pwyso a mesur heb ochri â neb.
I ddarparu gwasanaeth adolygu am ddim, sy'n effeithiol, ddiduedd ac yn datrys cwynion, i gwsmeriaid yr Asiantaethau a'r Busnesau perthnasol sy'n gwneud gwahaniaeth i'r ffordd y maent yn cyflawni eu cyfrifoldebau i'r cyhoedd.
I fod yn wasanaeth o'r radd uchaf a ddarperir gan staff proffesiynol.
Byddwn yn cyflawni hyn drwy fod yn llwyddiannus yn yr amcanion canlynol: