Amdanom Ni

Mae'r adran hon yn egluro pwy ydym ni, swyddogaeth yr Archwilydd Achosion Annibynnol, beth rydym yn ei ymchwilio ac mae'n rhoi atebion i Gwestiynau a Ofynnir yn Aml

Beth Allwn Ei Ymchwilio

Mae'r Archwilydd Achosion Annibynnol yn delio gyda chwynion am y ffordd y mae unrhyw o'r Asiantaethau neu Fusnesau Llywodraethol canlynol wedi delio #&226;'ch achos:

Er enghraifft, bydd yr Archwilydd Achosion Annibynnol yn edrych ar gwynion am:

Nid yw'r rhestr hon yn gwbl drwyadl.

Top y Dudalen

Beth na allawn ei archwilio

Ni all yr Archwilydd Achosion Annibynnol ddelio gyda chwynion nac anghydfodau:

Mwy o wybodaeth

Mae pob Asiantaeth/Busnes yn cynhyrchu nifer o daflenni a allai fod o ddefnydd i chi. Er mwyn cael y taflenni hyn dylech gysylltu â'ch swyddfa Canolfan Byd Gwaith lleol. Gallwch ddod o hyd i gyfeiriad a rhif ffôn y swyddfa agosaf atoch yn eich llyfr ffôn o dan 'Jobcentre Plus'neu o wefan y DWP.

Gall cwsmeriaid yng Ngogledd Iwerddon dod o hyn i'r wybodaethhwn o dan 'Government Offices - Social Security Agency'. Gallwch lawrlwytho rhai taflenni ar wefannau yr Asiantaethau/Busnesau perthnasol.

Gallwch hefyd ffonio'r Asiantaeth/Busnes sy'n delio â'ch achos. Dylech allu cael y rhif ffôn ar unrhyw wybodaeth maent wedi'i hanfon atoch.

Pryd yw'r amser iawn i gwyno i'r Archwilydd Achosion Annibynnol?

Yn gyntaf, rhaid i chi gwyno i'r Asiantaeth/Busnes a mynd trwy eu gweithdrefn gwyno hwy yn llawn. Gellir cael mwy o wybodaeth am weithdrefnau cwyno unigol drwy gysylltu'n uniongyrchol #&226;'r Asiantaeth/Busnes. Fel arfer rhaid i chi dderbyn ymateb terfynol gan yr Asiantaeth/Busnes cyn y gallwn ddelio #&226;'ch cwyn.

Os byddwch yn cwyno i ni cyn i chi gwyno i'r Asiantaeth/Busnes, efallai byddwn yn gofyn i chi anfon eich cwyn ymlaen atynt i weithredu arni. Byddwn hefyd yn eich cynghori o'r camau nesaf os nad ydych yn derbyn ymateb derbyniol. Top y Dudalen