Mae'r adran hon yn egluro pwy ydym ni, swyddogaeth yr Archwilydd Achosion Annibynnol, beth rydym yn ei harchwilio ac mae'n rhoi atebion i Gwestiynau a Ofynnir yn Aml
Sefydlwyd Swyddfa'r Archwilydd Achosion Annibynnol ym 1997 i ddarparu adolygiad cwynion a gwasanaeth penderfynu RHAD AC AM DDIM i bobl sydd eisiau cwyno ynglyn â'r
Bydd yr Archwilydd Achosion Annibynnol(ICE) John Hanlon yn ystyried y ddwy ochr o'r gŵn, ac os bydd angen yn gwneud argymhellion ynglřn ag unioni pethau.
Unwaith y bydd cwyn wedi ei dderbyn am archwiliad, cyfrifoldeb y Swyddog Datrys yw cysylltu â'r cwsmer a chadarnhau os oes modd datrys eu cwyn trwy gyfryngdod.
Tra bo gan y Swyddogion Datrys ddealltwriaeth gyffredinol o waith yr Asiantaeth/Busnes perthnasol, nid ydynt yn arbenigwyr technegol. Eu swyddogaeth yw bod yn brocer gonest, drwy geisio cyrraedd cytundeb rhwng yr Asiantaeth/Busnes a'r cwsmer.
Clustnodir cwynion sydd angen eu hymchwilio ar gyfer y Swyddogion Ymchwilio, sydd â chyfrifoldeb dros ystyried yr holl dystiolaeth a ddarparwyd gan y cwsmer a'r Asiantaeth/Busnes. Ar ôl gwneud hyn, byddant eto yn ystyried a oes angen cyfeirio'r cwyn i gyfryngdod. Os na all y cwyn cael ei penderfynnu yn y modd hwn, byddant hwy yn paratoi adroddiad drafft o'u darganfyddiadau i'r Archwilydd Achosion Annibynnol eu hystyried.
Fel y Swyddogion Datrys, nid yw'r Swyddogion Ymchwilio yn arbenigwyr ar brosesau a threfnau sydd yn ymwneud â'r Asiantaethau/Busnesau. Eu cyfrifoldeb hwy yw ystyried os yw'r Asiantaeth/Busnes wedi darparu'r cwsmer gyda'r lefel o wasanaeth gofynnol, ac os nad ydynt, a ydynt wedi cynnig ymddiheuriad ynghyd â iawndal priodol.