Mae'r adran hon yn egluro pwy ydym ni, swyddogaeth yr Archwilydd Achosion Annibynnol, beth rydym yn ei harchwilio ac mae'n rhoi atebion i Gwestiynau a Ofynnir yn Aml
Mae'n ddyletswydd arnom i ddelio yn deg a rhesymol gyda chwsmeriaid ple mae eu busnes yn dod o fewn i'n awdurdodaeth. Rydym yn cydnabod fod rhai pobl weithiau wedi brwydro i gael eu cwynion wedi'u datrys ac efallai yn profi rhwystredigaeth, pryder neu straen a byddwn yn ceisio cymryd hynny i ystyriaeth.
Mae gennym hefyd ddyletswydd i sicrhau diogelwch a lles ein staff, ac nid ydym yn disgwyl iddynt oddef ymddygiad gan y cyhoedd sy'n sarhaus, ymosodol, neu fygythiol. Pan ddynodi'r fath ymddygiad, byddwn yn dweud wrth y person perthnasol pam rydym yn credu na allwn dderbyn eu hymddygiad a byddwn yn gofyn iddynt newid eu hagwedd. Os yw'r ymddygiad annerbyniadwy yn parhau, byddwn yn cymryd camau i gyfyngu cyswllt y person gyda ni. Gallwn, er enghraifft wrthod delio ag unigolion dros y ffôn neu ofyn iddynt gysylltu â ni yn unig ar adegau penodol neu gyda swyddogion wedi'u henwi'n benodol. Os yw popeth arall yn methu, ac mae'r ymddygiad yn parhau heb newid, efallai byddwn yn penderfynu diweddu cysylltiad yn gyfan gwbl. Ple mae ymddygiad mor eithafol, fel ei fod yn bygwth diogelwch neu les ein staff, byddwn yn ystyried adrodd y mater i'r heddlu neu gymryd gweithred gyfreithiol.
Nid yw'r fath benderfyniadau yn cael eu cymryd yn ysgafn, pan maent yn cael eu cymryd, byddwn bob amser yn cynghori unigolion o sut i gwyno am y penderfyniadau hynny neu am ein gwasanaeth yn gyffredinol.