Amdanom Ni

Mae'r adran hon yn egluro pwy ydym ni, swyddogaeth yr Archwilydd Achosion Annibynnol, beth rydym yn ei harchwilio ac mae'n rhoi atebion i Gwestiynau a Ofynnir yn Aml

Cwynion Di-baid/Trallodus

Rydym yn croesawu cwynion gan gwsmeriaid y busnesau hynny sydd yn disgyn o fewn ein hawdurdodaeth am y gwasanaeth maent wedi derbyn. Rydym hefyd yn croesawu cwynion am ein gwasanaeth ein hunain; byddwn yn ymchwilio'r cwynion hynny yn drwyadl a rhoi ymateb cynhwysfawr. Rydym yn ymroddedig i ddarparu gwasanaeth sy'n deg, diduedd ac o safon uchel.

Fodd bynnag, mae ein gwasanaeth yn cael ei ariannu yn gyhoeddus ac mae gennym gyfrifoldeb i sicrhau fod yr arian yn cael ei wario yn ddoeth. Mae nifer bychan o'r rhai sy'n cwyno yn cysylltu â ni mor aml maent yn rhwystro ein hystyriaeth ni o'u cwynion a chwynion pobl eraill. Pan mae hynny'n digwydd, byddwn yn gofyn iddynt newid eu hagwedd. Er enghraifft , gallwn ofyn iddynt i beidio cysylltu â ni am gyfnod ddiffiniedig neu mewn perthynas â mater penodol. Os nad ydynt yn ymateb i'r cais, gallwn benderfynu diweddu cysylltiad yn gyfan gwbl.

Nid yw'r fath benderfyniadau'n cael eu cymryd yn ysgafn, pan maent yn cael eu cymryd, byddwn bob amser yn cynghori unigolion o sut i gwyno am y penderfyniadau hynny neu am ein gwasanaeth yn gyffredinol.