Cam Un Cydnabyddwn dderbyn y cwyn.
Cam Dau Penderfynwn os gellir derbyn y cwyn ar gyfer ei weithredu. Am wybodaeth bellach, ewch beth gallwn ac na allwn ei ymchwilio. Bydd swyddog yn cysylltu â'r cleient i gadarnhau'r cwyn. Bydd cytundeb yn diffinio'r materion fydd yn cael eu hystyried yn cael ei anfon i'r cleient er mwyn cytuno arno.
Cam Tri Os derbynnir y cwyn ar gyfer ei weithredu byddwn yn ystyried pa gamau gallwn eu cymryd ac os gellir datrys y cwyn heb fod angen ymchwiliad cyflawn.
Cam Pedwar Bydd y cwyn yn cael ei roi i swyddog ymchwilio. Cyn mynd ymhellach bydd y swyddog yn cysylltu â'r cleient.
Cam Pump Yn dilyn adolygiad o'r dystiolaeth bapur a ddarparwyd gan yr Asiantaeth/Busnes a'r cleient, bydd y swyddog ymchwil yn ystyried p'un ai all y cwyn gael ei ddatrys drwy gyfryngu.
Cam Chwech Os na fydd cyfryngu yn addas, bydd y swyddog ymchwil yn darparu adroddiad drafft ac yn gofyn i'r Asiantaeth/Busnes gynnig sicrwydd technegol, ynghyd ag ymateb i unrhyw gwestiynau sy'n codi.
Cam Saith Ar dderbyn ymateb gan yr Asiantaeth/Busnes, bydd y drafft yn cael ei gwblhau a'i gyfeirio at yr Archwilydd Achosion Annibynnol i'w ystyried.
Cam Wyth Bydd yr Archwilydd Achosion Annibynnol yn ystyried pob elfen o'r cwyn ac yn penderfynu os yw'r ymchwiliad yn dangos tystiolaeth o gamweinyddiaeth.
Os penderfynir nad oes unrhyw dystiolaeth o gamweinyddiaeth ni fydd y cwyn yn cael ei ategu.
Cam Naw Os penderfynir gan yr Archwilydd Achosion Annibynnol bod tystiolaeth o gamweinyddu, edrychir ar p'un ai gymerwyd camau gan yr Asiantaeth/Busnes er mwyn ceisio cywiro camgymeriadau ac annog camau priodol i wneud yn iawn cyn i'r cwsmer gwyno at yr Archwilydd Achosion Annibynnol.