Pryd yw'r amser iawn i gwyno i'r Archwilydd Achosion Annibynnol?

Yn gyntaf, cwynwch i'r Asiantaeth neu Fusnes unigol ac ewch trwy eu proses cwyno yn llawn. Fel arfer rhaid i chi dderbyn eu hateb terfynol cyn y gallwn ddelio gyda'ch cwyn.

Os byddwch yn parhau i fod yn anfodlon, yna gallwch gwyno i ni. Os byddwch yn cwyno i ni cyn i chi gwyno i'r Asiantaeth/Busnes, byddwn yn anfon eich cwyn atynt i'w weithredu. Os na fyddant yn ymateb o fewn wyth wythnos i ni'n anfon eich cwyn atynt, cysylltwch â ni eto ac efallai y byddwn yn gallu delio â'ch cwyn heb i chi orfod cysylltu â hwy eto.