Rhif ffôn (codir cyfraddau lleol): 0845 606 0777
Ffôn testun: 0151 801 8888
Typetalk: 18002 0151 801 8800
Os ydych yn ffonio o du allan i'r DU - +44 151 801 8800
Os byddwch yn ein ffonio, gallwn eich ffonio'n ôl ar unwaith er mwyn cadw eich costau ffôn yn isel. Fel arfer bydd rhywun ar gael i gymryd eich galwad rhwng 8am a 5pm o ddydd Llun i ddydd Gwener. Fodd bynnag, os nad oes unrhyw un ar gael, gallwch adael neges, a bydd rhywun yn eich ffonio'n ôl cyn gynted â phosibl.
Gallwch anfon manylion eich cwyn atom gan ddefnyddio ein e-ffurflen. Gallwch hefyd ddefnyddio'r ffurflen hon i gysylltu â ni os bydd gennych unrhyw sylwadau neu awgrymiadau i'w gwneud am y wefan hon, neu wasanaethau'r Archwilydd Achosion Annibynnol.
Fax: 0151 801 8802
Y Swyddog Diogelu Data yn swyddfa'r Archwilydd Achosion Annibynnol.
Mr John Bennett
Rydym yn ymrwymedig i ddarparu'r gwasanaeth gorau bosibl i'n cwsmeriaid.
Rydym yn croesawu adborth, a fydd yn ein helpu i wella ansawdd ein gwasanaeth.
Ein gwasanaeth i chi:
Rydym yn anfon arolygon boddhad cwsmeriaid i'n cleientiaid pan fyddwn wedi cwblhau'n archwiliad. Byddwn yn
dadansoddi'r ymatebion er mwyn nodi'r meysydd hynny sydd angen gwella. Ein nod yw i wella'r lefel o
foddhad cwsmeriaid yn flynyddol.
Pan fyddwn wedi gorffen ein harchwiliad o'ch cwyn, byddwn yn ysgrifennu atoch i'ch hysbysu o'r canlyniad. Bydd ein llythyr yn egluro beth i'w wneud os bydd gennych unrhyw gwestiynau neu bryderon ynglŷn â'r archwiliad. Os byddwch angen unrhyw wybodaeth bellach yn y cyfamser, dylech gysylltu â'r swyddog sy'n delio â'ch cwyn.
Os oes gennych unrhyw sylwadau am ein gwefan, cwblhewch yr e-ffurflen adborth.
Ceir help a gwybodaeth am sut i lywio drwy’r wefan ar ein Tudalen Hygyrchedd. Os bydd gennych unrhyw anawsterau eraill, cysylltwch â ni.
Mae ein cyhoeddiadau ar gael mewn print bras, mewn fersiwn sain ac mewn Braille. Gofynnwch os hoffech gael copi ar unrhyw un o’r ffurfiau hyn.
Mae gan ein swyddfeydd Ffônau testun a gallwn hefyd ddefnyddio Typetalk. Os hoffech ddefnyddio un o’r gwasanaethau hyn,mae’r rhifau ar gael ar ein tudalen manylion cyswllt.
Os byddai’n well gennych ddweud wrthym am eich cwyn dros y ffôn, byddwn yn rhoi eich cwyn yn ysgrifenedig.
Os hoffech i rywun weithredu ar eich rhan fel eich cynrychiolydd, gallant hwy ddelio â ni yn eich lle.
Os hoffech gopi o'n cyhoeddiadau mewn iaith arall, yna cysylltwch â ni. Byddwn yn dweud wrthych pa mor gyflym y gallwn drefnu hyn.
Os hoffech ddefnyddio ein gwasanaethau ac mai nid Cymraeg neu Saesneg yw eich iaith gyntaf, gallwn drefnu i'ch llythyrau gael eu cyfieithu, ond os byddwn yn gwneud hyn gallai gymryd ychydig mwy o amser i ni ymateb i'ch llythyrau.
Anelwn at ddarparu’r safon uchaf o wasanaeth. Fodd bynnag, os bydd pethau’n mynd o le, byddwn yn agored ac yn onest wrth gydnabod ac ymddiheuro am ein camgymeriadau. Os byddwch yn anhapus gyda’n gwasanaeth neu os byddwch yn credu ein bod wedi cael rhywbeth yn anghywir, rhowch wybod i ni. Gallwch ddefnyddio ein e-ffurflen i gysylltu â ni. Fel arfer bydd galwad ffôn yn ein galluogi i unioni pethau.
Fodd bynnag, os bydd angen ymateb ysgrifenedig anelwn at gydnabod eich cwyn o fewn 2 ddiwrnod gwaith o’i derbyn, ac anfon ymateb llawn o fewn 10 diwrnod gwaith. Os bydd ymateb yn cymryd mwy na hyn, byddwn yn rhoi gwybod i chi o fewn 10 diwrnod gwaith, ac egluro pam.
Gofyn i Aelod Seneddol gyfeirio'ch achos am ein gwasanaeth i'r Ombwdsman ar gyfer y Senedd a'r Gwasanaeth Iechyd.
Os byddwch yn anfodlon gyda chanlyniad ein hadolygiad o’ch cwyn, gallwch ofyn i ni edrych ar y cwyn eto, gan roi tystiolaeth ychwanegol i ni os yn addas. Os byddwch yn parhau’n anfodlon gyda’n hymateb, mae gennych hawl i ofyn i Aelod Seneddol gyfeirio eich cwyn at yr Ombwdsman perthnasol.
Ffôn: 0207 2174163, or 0845 0154033