Yr Archwilydd Achosion Annibynnol

John Hanlon Bwriad yr Archwilydd Achosion Annibynnol yw i weithredu fel canolwr diduedd ar gyfer pobl sy'n teimlo nad yw'r Asiantaethau neu Fusnesau Llywodrethol canlynol wedi eu trin yn deg neu nad ydynt wedi delio â chwynion mewn ffordd foddhaol. Yr Asiantaethau/Busnesau hyn yw:

Gall gelientiaid droi at swyddfa'r Archwilydd Achosion Annibynnol ar ôl iddynt dderbyn ymateb terfynol i'w cwyn gan yr Asiantaeth/Busnes maent yn eu hystyried i fod yn anfoddhaol.

John Hanlon yw'r Archwilydd Achosion Annibynnol (ICE). Ei rôl yw i archwylio cwynion a wneir am yr Asiantaethau neu'r Busnesau hyn, gan ddefnyddwyr eu gwasanaethau. Nid yw Mr Hanlon yn Was Sifil ac nid yw'n rhan o strwythur reoli unrhyw un o'r Asiantaethau neu'r Busnesau. Mae'r gwasanaeth a ddarperir gan ei swyddfa yn rhad ac am ddim i gleientiaid.

Mae Mr Hanlon yn gyfreithiwr sydd wedi cyflawni nifer o swyddogaethau anweithredol, cynghorol ac annibynnol, gan gynnwys gweithredu fel Rheolydd Cwmnïau Budd Cyhoeddus ac fel Comisiynnydd i'r Comisiwn Gofal yn Yr Alban. Mae ganddo brofiad sylweddol mewn cyfryngu, canoli, a phenderfynu ar faterion cymhleth. Mae wedi gweithio'n llwyddiannus gyda nifer o gyrff cyhoeddus mawr yn y sectorau cyhoeddus a phreifat.

Pwyso a mesur heb ochri â neb

Yr Archwilydd Achosion Annibynnol wrth waith Anela'r Archwilydd Achosion Annibynnol at wneud gwahaniaeth i fywydau unigolion drwy archwylio eu cwynion yn deg gan weithio i hybu newid er mwyn gwella'r gwasanaeth cwsmeriaid a gynnigir gan yr Asiantaethau/Busnesau sy'n gysylltiedig â ni.